Rhif y ddeiseb: P-06-1304

Teitl y ddeiseb: Adolygu’r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy’n effeithio ar ein cymunedau.

Geiriad y ddeiseb: Mae cymuned Thomastown yn Nhonyrefail wedi dioddef oherwydd bod yr awdurdod lleol yn defnyddio llety gwely a brecwast yng nghanol y gymuned fel llety dros dro mewn argyfwng. Er bod yr awdurdod lleol yn mynnu bod y rhai sy’n cael eu gosod yma yn cael asesiad risg, mae’r gymuned wedi dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol, bygythiadau, trais a delio cyffuriau. Mae’r gymuned wedi’i siomi gan yr awdurdod lleol a hoffai adolygiad o’r gweithdrefnau sydd ar waith i atal hyn rhag digwydd eto.

Mae’r awdurdod lleol wedi lleoli pobl ddigartref yno yn fuan wedi iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar. Mae’r gymuned wedi brwydro ers nifer o flynyddoedd i atal y cyngor rhag defnyddio’r llety gwely a brecwast ar gyfer cyn-garcharorion. Mae pobl leol wedi bod yn dyst i nifer o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol dros y blynyddoedd, sy’n achosi pryder difrifol i’r gymuned ac yn cael effaith negyddol ar eu bywydau.

Hefyd, nid oes trefniadau diogelwch ar waith, na rhwydwaith diogelwch i’r preswylwyr.

Nid yw’r gymuned eisiau i hyn ddigwydd eto ac mae’n galw am adolygiad llawn o’r gweithdrefnau a’r polisïau ar gyfer lleoli pobl ddigartref mewn llety dros dro mewn argyfwng mewn cymunedau lle nad oes cymorth priodol ar waith i gefnogi’r preswylwyr y mae’r awdurdod lleol yn eu lleoli yno.


1.        Cefndir

Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu agwedd 'neb yn cael eu gadael allan' tuag at ddigartrefedd. Mae hyn wedi'i gefnogi gan ganllawiau a rhywfaint o gyllid ychwanegol. Awdurdodau lleol a'u partneriaid sy’n ei ddarparu. Mae'r ymateb hwnnw yn parhau i fod ar waith, ac wedi arwain at roi llety dros dro a gwasanaethau cymorth i nifer sylweddol o bobl sy'n wynebu digartrefedd.

Defnyddir gwahanol fathau o lety dros dro a gallent gynnwys gwestai, llochesau, hostelau, gwely a brecwast, tai cymdeithasol a llety yn y sector rhentu preifat.

Mae canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2016 yn nodi materion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth benderfynu a yw llety yn addas. Mae'r canllawiau yn nodi nad yw llety gwely a brecwast yn ffurf addas o lety yn gyffredinol, gan nodi:

The use of B&B should only be used on an exceptional basis and for a limited period of time for any individual or household.

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei phwerau statudol i gyfyngu ar ddefnyddio llety gwely a brecwast fel llety dros dro. Ond oherwydd y pwysau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig, a gan fod y dull 'neb yn cael eu gadael allan’ yn parhau, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar ganiatáu defnyddio llety gwely a brecwast dros dro mewn achosion lle mae awdurdodau lleol yn wynebu pwysau oherwydd y pandemig, yn amodol ar ddyddiad gorffen ar 31 Mawrth 2023. Nid oes newidiadau deddfwriaethol wedi'u gwneud eto.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, cynyddodd nifer y bobl a osodwyd mewn llety dros dro yn gyson dros gyfnod y pandemig, gyda chyfanswm o 26,400 o bobl wedi'u gosod mewn tai o'r fath rywbryd rhwng Mawrth 2020 ac Awst 2022.

Ar 31 Awst 2022, roedd 8,545 o unigolion (gan gynnwys 2,515 o blant dibynnol o dan 16 oed) yn parhau i fyw mewn llety dros dro, ac amcangyfrifwyd bod 152 o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Ym mis Hydref 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru’r Strategaeth ar gyfer Atal a Roi [sic] Diwedd ar Digartrefedd [sic]. Nod y strategaeth hon yw sicrhau bod digartrefedd yn ‘brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n digwydd eto’.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026 ym mis Tachwedd 2021, a oedd yn bwrw ymlaen â gwaith ac argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Mae'r cynllun wedi ei rannu'n dri cham gweithredu allweddol: 'prin', sy’n canolbwyntio ar atal; 'byrhoedlog', sy’n ymwneud ag ailgartrefu cyflym; ac 'nad yw’n digwydd eto', sy'n ymwneud ag argaeledd tai tymor hir.

Ym mis Mai-Mehefin 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynnig i ddiweddaru'r categorïau 'angen blaenoriaethol' i gynnwys pobl sy'n ddigartref ar y stryd. Byddai hyn yn dod â'r agwedd ‘neb yn cael eu gadael allan’ i gyfraith. Pasiwyd Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 yn dilyn dadl yn y Senedd ar 18 Hydref 2022 a daeth i rym ar 24 Hydref 2022.

Ar 1 Tachwedd, ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynglŷn â’r ddeiseb hon. Mae ei llythyr yn cydnabod bod parhau â'r dull ‘neb yn cael eu gadael allan’ wedi cynyddu’r pwysau ar awdurdodau lleol i ddod o hyd i lety dros dro, ac mae hyn wedi cynnwys defnyddio llety gwely a brecwast. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog yn mynnu na fydd Llywodraeth Cymru yn newid ei dull presennol o fynd i’r afael â digartrefedd, gan nodi'r Rheoliadau uchod fel tystiolaeth.

Nododd y Gweinidog hefyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella'r cyflenwad o dai mwy hirdymor, gan gynnwys cynlluniau i adeiladu tai cymdeithasol carbon isel newydd a'r dyraniad diweddar o £65m i'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro i helpu i gynyddu’r opsiynau i symud ymlaen ar gyfer gwasanaethau tai awdurdodau lleol.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn cynnal ymchwiliad i ddigartrefedd yng Nghymru ar hyn o bryd. Ar 12 Hydref, y cylch gorchwyl y cytunwyd arno ar gyfer yr ymchwiliad hwn yw:

§    Cyflenwad, addasrwydd ac ansawdd y llety dros dro sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gartrefu pobl sy'n ddigartref a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt;

§    Yr effaith y caiff byw mewn llety dros dro ar unigolion a theuluoedd;

§    Effaith y galw parhaus am lety dros dro ar awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth, eu partneriaid a’u cymunedau;

§    Opsiynau i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a phriodol yn y tymor byr i ganolig, er mwyn lleihau’r defnydd o lety dros dro;

§    Cynnydd o ran gweithredu ‘Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru: Cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026’, ac yn arbennig y symud tuag at ddull ailgartrefu cyflym.

Hyd yma mae'r Pwyllgor wedi cynnal dau ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid wedi'u targedu – y cyntaf ym mis Ionawr-Chwefror 2022 ac ail ymgynghoriad parhaus sydd i fod i ddod i ben ar 11 Tachwedd. 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.